Gillian Flynn
Gillian Flynn | |
---|---|
Ganwyd | 24 Chwefror 1971 Dinas Kansas |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, beirniad teledu, nofelydd, llenor, sgriptiwr, beirniad ffilm, sgriptiwr ffilm |
Adnabyddus am | Dark Places, Gone Girl |
Arddull | cyffro |
Gwobr/au | Cyllell Ddur CWA Ian Fleming, Gwobr Dagr Waedlyd Newydd y CWA |
Gwefan | http://gillian-flynn.com |
Awdures Americanaidd yw Gillian Schieber Flynn (ganwyd 24 Chwefror 1971) sy'n newyddiadurwr, beirniad teledu, nofelydd sgriptiwr a beirniad ffilm. Hyd at 2019 roedd wedi ysgrifennu tair nofel nodedig: Sharp Objects, Dark Places, a Gone Girl ac mae'r dair wedi'u haddasu ar gyfer teledu neu ffilm.[1][2][3][4] Addasodd Flynn ei nofel Gone Girl ei hun a'r gyfres fechan Sharp Objects (HBO). Yn y gorffennol mae wedi gweithio fel beirniad ffilm ar gyfer Entertainment Weekly.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Ninas Kansas a'i magu yn ardal Coleman Highlands. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Kansas, Ysgol Newyddiaduraeth Medill a Phrifysgol Northwestern.[5][6]
Roedd ei rhieni, ill dau, yn athrawon-prifysgol yng Ngholeg Cymunedol Metropolitanaidd – Penn Valley: roedd ei mam, Judith Ann (g. Schieber), yn athro iaith, ac roedd ei thad, Edwin Matthew Flynn, yn athro ffilm.[6][7][8][9] Mae ganddi frawd hŷn, Travis, sy'n beiriannydd rheilffordd. Ei ewythr yw Barnwr Llys Cylchdaith Jackson, Robert Schieber. Roedd Flynn yn “boenus o swil” pan oedd yn ifanc a chafodd ddianc drwy ddarllen ac ysgrifennu. Pan oedd yn ei harddegau, byddai tad Flynn yn mynd â hi i wylio ffilmiau arswyd.[10][11][12]
Mynychodd Flynn Ysgol Uwchradd Esgob Miege a graddiodd ym 1989. Fel person ifanc yn ei harddegau, gweithiodd fel 'gwisgwr-hysbysebu', e.e. fel côn iogwrt anferthol neu mewn tuxedo, gydag arwydd hysbysebu yn ei llaw.
Colegau
[golygu | golygu cod]Aeth i Brifysgol Kansas, lle cafodd radd mewn Saesneg a newyddiaduraeth. Treuliodd ddwy flynedd yng Nghaliffornia, yn ysgrifennu ar gyfer cylchgrawn masnach ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes adnoddau dynol, cyn symud i Chicago lle mynychodd Brifysgol Northwestern gan dderbyn gradd meistr yn Ysgol Newyddiaduraeth Medill ym 1997.[13] Ar y dechrau roedd Flynn eisiau gweithio fel gohebydd heddlu, ond dewisodd ganolbwyntio ar ei hysgrifennu ei hun, gan iddi ddarganfod nad oedd ganddi "ddawn" ar gyfer adroddiadau i'r heddlu. [14]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cyllell Ddur CWA Ian Fleming (2007), Gwobr Dagr Waedlyd Newydd y CWA (2007) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Perdida (Movie Tie-In Edition) (Gone Girl-Spanish Language) (Vintage Espanol) (2014)". Best Little Bookshop. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-24. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2014.
- ↑ "Heridas abiertas: (Sharp Objects Spanish-language Edition)". Abebooks. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2014.
- ↑ "Heridas Abiertas: (Sharp Objects Spanish-Language Edition)". Rediff.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-29. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2014.
- ↑ "Gillian Flynn Talks About Dark Places". YouTube. Orion Publishing. 25 Medi 2009. Cyrchwyd 7 Ionawr2017. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ McClurg, Jocelyn (27 Medi 2006). "New voices: Gillian Flynn makes thriller debut". USA Today.
- ↑ 6.0 6.1 Paul, Steve (11 Tachwedd 2012). "Kansas City native Gillian Flynn emerges as a literary force with her twisted mystery 'Gone Girl'". The Kansas City Star. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2014. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
- ↑ Parsi, Novid (7 Chwefror 2013). "Gillian Flynn on Gone Girl - Interview". Time Out. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
- ↑ Anolik, Lili (10 Hydref 2014). "Inside the Dangerous Mind of Gone Girl's Gillian Flynn I". Elle. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-28. Cyrchwyd 2014-11-15. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb155343186. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb155343186. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/2009/05/10/books/review/Crime-t.html. http://www.nytimes.com/2012/05/30/books/gone-girl-by-gillian-flynn.html.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. http://www.isfdb.org/cgi-bin/ea.cgi?144771. "Gillian Flynn".
- ↑ Lewis, Keith (20 Hydref 2013). "'Gone Girl' author talks about her Missouri roots". Southeast Missourian. Cyrchwyd 11 Hydref 2014.
- ↑ Galwedigaeth: Muck Rack. dyddiad cyrchiad: 3 Ebrill 2022. Muck Rack. dyddiad cyrchiad: 3 Ebrill 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 16 Rhagfyr 2022.